Datganiad hygyrchedd ar gyfer Cofrestrwch eich ôl-gerbyd i'w gymryd dramor
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i https://www.gov.uk/.
Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
- chwyddo hyd at 300% heb i'r testun arllwys oddi ar y sgrin
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall. Mae'r wefan hefyd wedi'i dylunio i fod yn gydnaws â:
- chwyddwydrau sgrin system weithredu sylfaenol, megis ZoomText 11
- meddalwedd adnabod lleferydd, fel Dragon Naturally Speaking
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol megis PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:
E-bostiwch ein tîm Cyfathrebu Allanol a chawn weld a allwn eich helpu, neu cysylltwch â'n Canolfan Gyswllt drwy
- E-bost: contact@dvla.gov.uk
- Ffôn: 0300 300 2079
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau neu faterion wrth ddefnyddio ein gwefan neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost at contact@dvla.gov.uk.
Gweithdrefn orfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Compliance status
Roedd y gwasanaeth llawn wedi ei brofi diwethaf ar 7 Hydref 2020 gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol
Paratowyd y datganiad hwn ar 7 Hydref 2020. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 7 Hydref 2020.